1 Dwedai’r Arglwydd wrth f’Arglwydd mau,ar fy llaw ddeau eistedd:Nes rhoddi’ rhai a gais dy waedyn faingc draed yt, i orwedd.
2 ’R Arglwydd denfyn ffrewyll dy nertho ddinas fowrwerth Seion,Pan lywodraethech yn eu mysg,gwna derfysg ar d’elynion.
3 Yn nydd dy nerth dy bobl a ddaw,ag aberth llaw’n wyllysgar,Yn sanctaidd hardd daw’r cynnyrch tauo wlith y borau hawddgar.
4 Yr Arglwydd tyngodd, ac ni wâd,ti sy’n offeiriad bythol,Wrth urdd Melchisedech odd’ fry,a bery yn dragwyddol.
5 Yr Arglwydd ar dy ddehau law,brenhinoedd draw a friwa,Yn nydd ei ddig gwna’n archollionfrenhinoedd cryfion, meddaf.