1 Clodforaf fi fy Arglwydd Ion,o wyllys calon hollawl,Mewn cynnulleidfa gar eu bron,mewn tyrfa gyfion rasawl.
2 Mawr iawn yw gwrthiau’n Arglwydd nihysbys i bawb a’i hoffant.
3 Ei waith a’i iownder pery byth,a’i wehelyth ogoniant.
4 Yr Arglwydd a wnaeth ei goffau,am ryfeddodau nerthol.Cans Arglwydd nawdd-fawr yw i ni,llawn o dosturi grasol.