1 Dedwyddol yw mewn buchedd dda,y sawl a ofna’r Arglwydd:A’i orchymynion anwyl ynt,bydd iddo helynt hylwydd.
2 Ei hâd fydd nerthol yn y tir,bendithir hil rhai union:
3 Golud a chyfoeth yn ei dy,tros byth y pery’n gyfion.
4 Yr union yn y tywyll caucaiff fodd i olau weled:Ystyriol a thosturiol iawn,a chyfiawn fydd ei weithred.
5 Gwr da a fydd trugarog fwyn,rhydd echwyn a chymwynas:A’i air mewn pwyll a barn a rydd,a’i weithred sydd yn addas.
6 Ni ’sgogir byth y cyfiawn, gwnaei goffa yn dragywydd: