6 Ni ’sgogir byth y cyfiawn, gwnaei goffa yn dragywydd:
7 A chalon ddisigl, ddwys, ddiofn,a sail ddofn yn yr Arglwydd.
8 Hwn yn nerth Duw diofnog fydd,ac atteg sydd iw galon:Hyd oni chaffo drwy lawn wys,ei wyllys o’i elynion.
9 Rhannodd a rhoes i’r tlawd yn hy,byth pery ei gyfiownedd:A chryfder ei goron yn wir,dyrchefir mewn gogonedd.
10 Yr anwir edrych, ffromma o ddig,drwy ffyrnig ysgyrnygiad:Yr annuwiol a dawdd: fal hynfydd terfyn eu dymuniad.