1 Nid i ni Arglwydd, nid i ni,y dodi y gogonedd,Ond i’th enw dy hun yn hawdd,er mwyn dy nawdd a’th wiredd.
2 Pa’m y dwedant am danat tiy cenedlaethi estron:A thrwy edliw hynny yn fwy,ple’y mae’u Duw hwy yr awron?
3 Sef ein Duw ni mae yn y nef,lle y gwnaeth ef a fynnodd.
4 Eu delwau hwy, aur, arian yn’,a dwylo dyn a’i lluniodd.
5 Safn heb draethu: llun lygaid glân,y rhai’n ni welan ronyn:
6 Trwyn heb arogl, clustiau ar lledheb glywed, y sydd ganthyn.