2 Pa’m y dwedant am danat tiy cenedlaethi estron:A thrwy edliw hynny yn fwy,ple’y mae’u Duw hwy yr awron?
3 Sef ein Duw ni mae yn y nef,lle y gwnaeth ef a fynnodd.
4 Eu delwau hwy, aur, arian yn’,a dwylo dyn a’i lluniodd.
5 Safn heb draethu: llun lygaid glân,y rhai’n ni welan ronyn:
6 Trwyn heb arogl, clustiau ar lledheb glywed, y sydd ganthyn.
7 Ac i bob delw y mae dwy lawheb deimlaw, traed heb symyd:Mae mwnwgl iddynt heb roi llais,fal dyna ddyfais ynfyd.
8 Fel hwyntwy ydyw’ rhai a’i gwnant,a’r rhai a gredant iddynt:Am hyn ni ddylai neb drwy gredroi mo’i ymddiried arnynt.