9 O Israel, dod ti yn rhwyddar yr Arglwydd dy hollfryd,Ef yw eu nerth a’i dwg i’r lan,eu porth a’i tarian hefyd.
10 O ty Aron, dod tithau’n rhwydd,ar yr Arglwydd dy hollfryd:Ef yw eu nerth a’i dwg i’r lan,eu porth a’i tarian hefyd.
11 Rhai a ofnwch yr Arglwydd Ion,rhowch arno’ch union hollfryd.Efe yw’r neb a’ch dwg i’r lan,eich porth a’ch tarian hefyd.
12 Duw nef a’n cofiodd, ac i’n plithfo roes ei fendith rhadlon:I dy Israel rhydd ei hedd,ac unwedd i dy Aaron.
13 Sawl a’i hofnant bendithiant ef,yr Arglwydd nef canmolan:A’i enw sanct o’r nef i’r llawr,bendithied mawr a bychan:
14 Yr Arglwydd arnoch, arnoch chwi,a wna ddaioni amlach.Ac a chwanega ar eich plantei fwyniant yn rymusach.
15 Y mae ywch fendith a mawr lwydd,gan y gwir Arglwydd cyfiawn,Yr hwn a wnaeth y nefoedd fry,ar ddayar obry yn gyflawn.