8 Oherwydd i Dduw wared f’oes,a’m cadw rhag gloes angau,Fy nrhaed rhag llithro i law drwg,a’m golwg i rhag dagrau.
9 Yn y ffydd hon o flaen fy Nuw,ym mysg gwyr byw y rhodiaf.
10 Fel y credais felly y tystiais,ar y testyn ymma.
11 Yn fy ffrwst dwedais i fal hyn,mae pob dyn yn gelwyddog,
12 Ond o Dduw, beth a wnaf i ti,am dy ddaioni cefnog?
13 Mi a gymeraf, gan roi mawl,y phiawl iechydwriaeth,Ac a alwaf, er mwyn fy llwydd,ar enw yr Arglwydd bennaeth.
14 I’r Arglwydd talaf yn forau,fy addunedau ffyddlon,Y myd hyn o flaen ei holl lu,y modd y bu’n fy nghalon.