18 Hwn a’m cospodd, ond ni’m lladdodd,yn hyttrach lluddiodd aflwydd.
19 Agorwch ym byrth cyfiownder,o’i mewn Duw ner a folaf.
20 Porth yr Arglwydd fal dyma fo,ânt iddo’r rhai cyfiownaf.
21 Minnau a’th folaf yn dy dy,o herwydd ytty ’nghlywed,Yno y canaf nefol glodyt, am dy fod i’m gwared.
22 Y maen sy ben congl-faen i ni,a ddarfu i’r seiri ei wrthod.
23 O’r Arglwydd Dduw y tyfodd hyn,sy gan ddyn yn rhyfeddod.
24 Yr Arglwydd a’i gwnaeth, dyma’r dydd,er mawr lawenydd ynny,Yntho cymrwn orfoledd llawn,ymlawenhawn am hynny.