2 Dweded Israel da yw ef,a’i nawdd o nef ni dderfydd.
3 Dyweded ty Aaron mai da yw,trugaredd Duw’n dragywydd.
4 Y rhai a’i hofnant ef yn lân,a ganan yr un cywydd.Rhon iw drugaredd yr un glod,sef ei bod yn dragywydd.
5 Im hing gelwais ar f’Arglwydd cu,hawdd gantho fu fy nghlywed:Ef a’m gollyngodd i yn rhyddo’i lân dragywydd nodded.
6 Yr Arglwydd sydd i’m gyda’ mi,nid rhaid ym’ ofni dynion.
7 Yr Arglwydd sydd ynghyd â mi,er cosbi fy ngelynion.
8 Gwell yw gobeithio yn Nuw cun,nag mewn un dyn o’r aplaf: