1 O achub bellach Arglwydd cu,fe ddarfu’r trugarogion:A’r holl wirionedd a’r ball aetho blith hiliogaeth dynion.
2 A gwefus gweniaith dwedant ffug,er twyll a hug i’r eiddyn:A chalon ddyblyg yr un weddy cair oferedd ganthyn.
3 Yr Arglwydd torred o’i farn faithwefusau’r gweniaith diles:A’r holl dafodau ffrostus iawna fytho llawn o rodres.
4 Gallwn orfod o nerth tafod,dwy wefus y sydd eiddom:Fal hyn y dwedant hwy yn rhwydd,a phwy sydd Arglwydd arnom?
5 Yntau ein Duw a ddwedodd hyn,rhag llethu’r gwaelddyn codaf:Y dyn gofidus, tlawd, a’r caeth,mewn iechydwriaeth dodaf.
6 Pur iawn yw geiriau’r Arglwydd nefa’i ’ddewid ef sydd berffaith,Fel arian o ffwrn, drwy aml drowed’i goeth buro seithwaith.