1 I Dy’r Arglwydd (pan ddwedent) awn,i’m llawen iawn oedd wrando.
2 Sai’n traed o fewn Caer-Salem byrth,yr un ni syrth oddiyno.
3 Caersalem lân ein dinas ni,ei sail sydd ynddi’i hunan:A'i phobl sydd ynddi yn gytun,a Duw ei hun a’i drigfan.
4 Cans yno y daw y llwythau ’nghyd,yn unfryd, llwythau’r Arglwydd:Tystiolaeth Israel a’i drig-fod,a chlod iw fawr sancteiddrwydd.