4 Cans yno y daw y llwythau ’nghyd,yn unfryd, llwythau’r Arglwydd:Tystiolaeth Israel a’i drig-fod,a chlod iw fawr sancteiddrwydd.
5 Cans yno cadair y farn sydd:eisteddfod Dafydd yno.
6 Erchwch i’r ddinas hedd a mawl:a llwydd i’r sawl a’th garo.
7 O fewn dy gaerau heddwch boed,i’th lysoedd doed yr hawddfyd.
8 Er mwyn fy mrodyr mae’r arch hon,a’m cymydogion hefyd.
9 Ac er mwyn ty’r Arglwydd ein Duw,hwn ynot yw’n rhagorol:O achos hyn yr archaf fi,i ti ddaioni rhadol.