1 A ofno’r Arglwydd gwyn ei fyd,a rhodiaw rhyd ei lwybrau,
2 Bwyttei o ynnill gwaith dy law,a blith y daw i tithau.
3 Dy wraig ar du dy dy is nen,fel per winwydden ffrwythlon,Dy blant ynghylch dy fwrdd a fyddfel olewydd blanhigion:
4 Wele, fal dyma’r modd yn wirbendithir y gwr cyfion,Ac ofno’r Arglwydd Dduw yn ddwys,rhydd arno bwys ei galon.