1 Llawer gwaith cefais gystudd mawr,Israel yn awr dyweded,O’m hieuenctyd hyd yr awr hon,fe wyr fy mron eu trymed.
2 A llawer gwaith y cefais lid,o’m gwan ieuengctid allan:A blin gystudd ar lawer tro,ac etto ni’m gorfuan’.
3 Yr arddwyr arddent y cefn mau,drwy rhwygo cwysau hirion:
4 Y cyfion Ner torrodd yn frau,bleth-didau’r annuwiolion.