5 Nes caffwyf gyflo yn ddi rus,i Arglwydd grymus Jaco.
6 Wele’n Ephrata clywsom fodlle o breswylfod iddo.Cawsom hi ym meusydd y coed.
7 Pawb doed iw bebyll tirion:Awn, ymgrymwn, pawb ufyddhaed,wrth ei faingc droed yn union.
8 F’arglwydd, cyfod i’th esmwyth lys,a’th arch o rymmus fowredd.
9 Gwisged d’offeiriaid gyfion fraint,gwisged dy Sainct wirionedd.
10 Er mwyn Dafydd dy ffyddlon wâs,na thyn dy râs yn llidiog:Ac na wrthneba di er neb,mo wyneb dy enneiniog.
11 I Ddafydd rhoes yr Ion iw gwir,a chedwir hwn heb wyredd:O ffrwyth dy gorph rhof ar dy faingc,it iraidd gaingc i eistedd.