8 F’arglwydd, cyfod i’th esmwyth lys,a’th arch o rymmus fowredd.
9 Gwisged d’offeiriaid gyfion fraint,gwisged dy Sainct wirionedd.
10 Er mwyn Dafydd dy ffyddlon wâs,na thyn dy râs yn llidiog:Ac na wrthneba di er neb,mo wyneb dy enneiniog.
11 I Ddafydd rhoes yr Ion iw gwir,a chedwir hwn heb wyredd:O ffrwyth dy gorph rhof ar dy faingc,it iraidd gaingc i eistedd.
12 Fy neddfau a’m cyfammod i,dy feibion di os cadwant:O blann i blann o gaingc i gaingc,hwy ar dy faingc a farnant.
13 Cans fy Arglwydd, o serch a bodd,a rag-ddewisodd Seion:I drigo ynthi rhoes ei fryd,gan ddwedyd geiriau tirion:
14 Hon fyth fydd fy ngorphwysfa i,o hoffder ynthi trigaf.