16 O waith dyn, genau rhwth y sydd,heb ddim llyferydd iddyn:Ac mae llun llygaid mawr ar led,a’r rhai’n heb weled gronyn.
17 Drwy glust dynion sydd i bob un,heb glywed mymryn etto.Eu safn yn ehang, ac ni chaidna chwyth, nag enaid yntho.
18 Un fodd a’r delwau fydd y rhafa’i gwnelai hwynt â’i dwylo.Ac nid yw well nâ’r rhai’n yr un,ynthyn a ymddirietto.
19 Ty Israel na choeliwch chwi:ty Aron, Lefi ufydd,
20 I’r rhai’n ddim, ond i’r Arglwydd nef,bendithiwch e’n dragywydd.
21 Bendithier fyth mawr enw’r Ion,o Seion hen a barchem,Bendithier moler ei enw fo,sy’n trigo ynghaer Selem.