4 Oblegid yr Arglwydd, a’i nawdd,ef a etholawdd Jaco,Ac Israel, iw mysg y trig,yn deulu unic iddo.
5 Cans mawr yw’r Arglwydd yn ei lys,mi a wn yn hysbys hynny:Ym mhell uwchlaw’r holl dduwiau mân,mae’r Arglwydd glân a’i allu.
6 Hyn oll a fynnodd a wnaeth ef,yn uchder nef eithafon:Ar ddaiar, ac yn y mor cau,a holl ddyfnderau’r digion.
7 O eithaf daiar cyfyd tarth,daw’r mellt o bobparth hwythau,Ac oer dymestloedd, glaw, a gwynt,a godynt o’i drysorau.
8 Yn nhir yr Aipht dynion, a da,â llawer pla y trawodd,Cyntaf-anedig o bob un,â’i law ei hun a laddodd.
9 I’th ganol di, o Aipht greulon,rhoes Duw arwyddion rhyfedd:Ar Pharo a’i holl weision i gyd:dug drwy’r holl fyd orfoledd.
10 O nerth ei fraich efe a wnaeth,lawer cenhedlaeth feirwon:A lladdodd lawer yr un weddo ben brenhinoedd cryfion.