9 I’th ganol di, o Aipht greulon,rhoes Duw arwyddion rhyfedd:Ar Pharo a’i holl weision i gyd:dug drwy’r holl fyd orfoledd.
10 O nerth ei fraich efe a wnaeth,lawer cenhedlaeth feirwon:A lladdodd lawer yr un weddo ben brenhinoedd cryfion.
11 Sef o’r Amoriaid Sehon fawr,ac Og, y cawr o Basan:A’r un ddinystriad arnynt aeth,a holl frenhiniaeth Canan.
12 A’i holl diroedd hwyntwy i gyd,gyd â’i holl fywyd bydol,I Israel i roi a wnaethyn etifeddiaeth nerthol.
13 Dy enw (o Arglwydd) a’th nerth cry’,a bery yn dragywydd,Ac o genedl i genedl aethdy goffadwriaeth, lywydd.
14 Cans ar ei bobl y rhydd ef farn,yr Arglwydd cadarn cyfion,Ac yn ei holl lywodraeth bur,bydd dostur wrth ei weision.
15 Y delwythau oll, gwaith dwylaw yn,a dyfais dyn anffyddlon,O aur ac arian dyn a’i gwnaeth,o hil cenhedlaeth weigion.