1 Pan oeddym gaeth yn Babilon,ar lan prif afon groyw,Mewn coffadwriaeth am Seion,hidlason ddagrau’n loyw.
2 Rhoddasom ein telynau’n ’nghrog,ar goed canghennog irion.Lle yr oedd preniau helyg plan,o ddeutu glann yr afon.
3 Y rhai a’n dug i garchar caeth,ini yn ffraeth gofynnen:A ni’n bruddion, gerdd i Seion,sywaeth peth nis gallen:
4 O Dduw pa fodd y canai neb,(rhoem atteb yn ystyriol)I chwi o gerdd ein Harglwydd Dâd,a ni mewn gwlad estronol?