18 Wrth fwrw, amlach gwn eu bodna’r tywod o rifedi.Myfyrio pan ddeffrowyf fi,’r wyf gyd’â thi yn gwblol.
19 O Dduw, ba achos yn dy lid,na leddid yr annuwiol?O Dduw pe cospid rhai o’r rhai’ny sydd yn arwain traha:Wrth y gwaedlyd fo gaid dwedyd,dydi dos oddiymma.
20 Y rhai am danad f’Arglwydd cu,sy’n treuthu pethau sccler:A’th elynion dibris eu llw,cymrasant d’enw’n ofer.
21 Ond câs yw gennif, o Dduw Ion,dy holl gaseion gwaedlyd:Ond ffiaidd gennyf fi bod dyn,a ai yn d’enw hefyd:
22 A llawn gâs y caseais hwynt,ynt fel ar bwynt gelynion.
23 O chwilia fi o Dduw yn hy,cei hynny yn fy nghalon.Duw prawf fy meddwl i’n fy mol
24 oes ffordd annuwiol genny:Gwel fi, tywys, dwg fi yn f’ol,dod ffordd dragwyddol ymy.