4 Nid oes air nas gwyddost ei fodar flaen fy nhafod ofnys.
5 O’m hol ac o’m blaen i’m lluniaist,dy law a ddodaist arnaf:
6 Gwybodaeth ddieithr yw i mi,a’i deall hi nis medraf.
7 I ba le r’af fi i roi tro,i’mguddio rhag dy Yspryd?I ba le ffoaf rhag dy wydd,drwy gael ffordd rwydd i lathlyd?
8 Os dringaf tua’r nefoedd fry,wyd yno i’th dy perffaith:Os tua’r dyfndwr, gostwng troyr wyt ti yno eilwaith.
9 Pe cawn adenydd borau wawr,a mynd i for mawr anial,
10 Yno byddai dy ddehau di,i’m tywys i a’m cynnal.