6 Gwybodaeth ddieithr yw i mi,a’i deall hi nis medraf.
7 I ba le r’af fi i roi tro,i’mguddio rhag dy Yspryd?I ba le ffoaf rhag dy wydd,drwy gael ffordd rwydd i lathlyd?
8 Os dringaf tua’r nefoedd fry,wyd yno i’th dy perffaith:Os tua’r dyfndwr, gostwng troyr wyt ti yno eilwaith.
9 Pe cawn adenydd borau wawr,a mynd i for mawr anial,
10 Yno byddai dy ddehau di,i’m tywys i a’m cynnal.
11 A phe meddyliwn, yr ail tro,ymguddio mewn tywyllwg,Canol y nos fel hanner dydd,mor olau fydd yn d’olwg.
12 Nid dim tywyllwch nos i tinag yw goleuni haf-ddydd:A’r ddau i ti maent yr un ddull,y tywyll a’r goleu-ddydd.