1 Fe ddwedai’r ynfyd nad oes Duw,ac felly byw drwy goegni,Ymlygru’n ffiaidd, ni chais gel:nid oes a wnel ddaioni.
2 O’r nef yr edrychodd yr Ionar holl drigolion daear,A roddai neb ei goel a’r Dduw,a cheisio byw’u ddeallgar.
3 Fe giliodd pawb at lygredd byd,ymdroent i gyd mewn brynti:Nid oes un a wnel well nâ hyn,nac un a fyn ddaioni.
4 Eu gwddf sy fedd agored caumaent â thafodau ’strywgar.A gwenwyn lindis sy’n parhaudan eu gwefusau twyllgar.