3 Fe giliodd pawb at lygredd byd,ymdroent i gyd mewn brynti:Nid oes un a wnel well nâ hyn,nac un a fyn ddaioni.
4 Eu gwddf sy fedd agored caumaent â thafodau ’strywgar.A gwenwyn lindis sy’n parhaudan eu gwefusau twyllgar.
5 A’i genau llawn (fel gwenwyn llith)o felldith, ac o fustledd:Ac anian esgud yw eu traedi dywallt gwaed a dialedd.
6 Distryw ac anhap sy’n eu ffyrddni’ dwaenant briffyrdd heddwch:Nid oes ofn Duw’n eu golwg hwy,ni cheisiant mwy ’difeirwch.
7 Pam? oni wyddant hwy eu boddrwy bechod, y modd yma,Yn ysu fy mhobl a’i cildroi,un wedd a chnoi y bara?
8 Gweddio’r Arglwydd hwy ni wnânt,yn hyn dychrynant luoedd:Am fod Duw’n dala gydâ’r iawn,yn un a’r cyfiawn bobloedd.
9 Gwradwyddech gynt gyngor y tlawdfal y gwnewch drallawd etto:Am i’r tlawd gredu y doe llwyddoddiwrth yr Arglwydd iddo.