4 Pan el y ffun o’r genau gwael,a’r corph i gael daiar-lan:Felly dychwel, fel dyna’r dyddy derfydd ei holl amcan.
5 Y pryd hwn gwyn ei fyd efoa rotho ei holl obaithAr Dduw Jaco yn gymorth da,pan el oddi yma ymaith.
6 Hwn Dduw a wnaeth nef, dayar, mor,a’r holl ystor sydd ynthynt:Hwn a saif yn ei wir ei hun,pryd na bo un ohonynt.
7 Yr hwn i’r gwael a rydd farn dda,a bara i’r newynllyd,Fe ollwng Duw y rheidus gwâr,o’i garchar ac o’i gaethfyd.
8 Yr Arglwydd egyr llygaid dall,ef a dyr wall gwael ddynion:Ymgleddu’r gwan mae’n Harglwydd ni,a hoffi y rhai cyfion.
9 Dieithraid, a’r ymddifad gwan,a’r weddw druan unig,Duw a’i pyrth: ond dyrysu wnaiholl ffyrdd pob rhai cythreulig:
10 Yr Arglwydd yn teyrnasu a fydd,dy Dduw tragywydd Seion:O oes i oes pery dy lwydd:molwch yr Arglwydd tirion.