1 Molwch yr Arglwydd, cans da ywcanu i Dduw yn llafar:O herwydd hyfryd yw ei glod,a da yw bod yn ddiolchgar.
2 Caersalem dinas gyflawn fyddyr Arglwydd sydd iw darpar:Can gasglu Israel ynghyd,a fu drwy’r byd ar wasgar.
3 Yr unic Arglwydd sy’n iachâu,yn rhydd o friwiau’r galon:Yr Arglwydd rhwym ’cu brwiau’n iawny rhai dolur-lawn cleifion.
4 Yr Arglwydd sydd yn rhifo’r ser,a phob rhyw nifer honynt:Ef a’i geilw hwynt oll yn glau,Wrth briod enwau eiddynt.
5 Mawr yw ein Arglwydd ni o nerth,a phrydferth o rasoldeb:Ac mae’n bell iawn uwch ben pob rhif,son am ei brif ddoethineb.
6 Yr Arglwydd unic sydd yn dali gynnal y rhai gweiniaid,Ac ef a ostwng hyd y llawry dorf fawr annuwioliaid.