3 Yr unic Arglwydd sy’n iachâu,yn rhydd o friwiau’r galon:Yr Arglwydd rhwym ’cu brwiau’n iawny rhai dolur-lawn cleifion.
4 Yr Arglwydd sydd yn rhifo’r ser,a phob rhyw nifer honynt:Ef a’i geilw hwynt oll yn glau,Wrth briod enwau eiddynt.
5 Mawr yw ein Arglwydd ni o nerth,a phrydferth o rasoldeb:Ac mae’n bell iawn uwch ben pob rhif,son am ei brif ddoethineb.
6 Yr Arglwydd unic sydd yn dali gynnal y rhai gweiniaid,Ac ef a ostwng hyd y llawry dorf fawr annuwioliaid.
7 Cenwch i’r Arglwydd mal y gwedd,clodforedd iddo a berthyn:O cenwch, cenwch gerdd i’n Duw,da ydyw gyda’r delyn.
8 Hwn â chymylau troes y nen,â glaw’r ddayaren gwlychodd,I wellt gwnaeth dyfu ar y fron,a llysiau’i ddynion parodd.
9 Hwn i’r anifael ar y bryna rydd yr hwn a’i portho:Fe bortha gywion y cigfrain,pan fo’nt yn llefain arno.