6 Rhoes reol iddynt i barhau,fel deddfau byth iw dilyn:Rhoes bob peth yn ei le’n ddi os,nad elo dros ei derfyn.
7 Molwch yr Arglwydd o’r ddayar,chwychwi ystrwgar ddreigiau,
8 Y tân, a’r cenllysg, eira, a tharth,a’r gwynt o bob parth yntau,
9 Mynyddoedd, bryniau, ffrwythlon wydda’r tirion gedrwydd brigog,
10 An’feiliaid, ac ymlusgiaid maes,ac adar llaes asgellog.
11 Brenhinoedd dair, barnwyr byd,swyddwyr ynghyd â’r bobloedd,
12 Gwyr ieuainc, gwyryfon, gwyr hen,pob bachgen ym mhob oesoedd.