1 Cenwch i’r Arglwydd, ac iawn fydd,ryw ganiad newydd rhyfedd:A chlywer ynghynlleidfa’r Sainct,ei fawr fraint a’i orfoledd.
2 Boed Israel lawen a ffraeth,yn Nuw a’u gwnaeth yn ddibrin:A byddant hyfryd blant Seion,yn Nuw eu tirion frenin.
3 Molant ei Enw ar y bibell,a thympanell, a thelyn:
4 Cans bodlon iw bobl yw i gyd,rhydd iechyd i’r lledneus-ddyn.