5 Iw Sainct ef doed gorfoledd iawn,a hon yn llawn gogoniant,Yn eu gweiau, (yn llawn ddull)ac yn eu stefyll canant.
6 Yn eu genau bydd cerdd bob awr,ein Duw a’i fawr ryfeddod,Ac yn eu dwylaw bydd iw drin,y cleddyf deufin parod:
7 Ar estroniaid i’n dial ni,ac i gosb boeni’r bobloedd:
8 I roi mewn caethder gadwyn dro,i rwymo ei brenhnioedd.I roi eu pendefigion chwyrn,mewn gefyn heyrn ffyrnig.
9 I wneuthur arnynt union farn,yn gadarn scrifennedig.Dymma’r glân ardderchwgrwydd fyddiw Sainct y sydd yn credu;Clodforwch oll yr Arglwydd nef,o molwch ef am hynny.