3 Ban chwiliaist fi (da yw dy gof)ni chefaist ynof gamwedd,Fy myfyr mâd na’m meddwl llaes,na ddoed ymaes o’m dannedd.
4 I ochel cydwaith dynion drwg,drwy d’air a’th amlwg cyngor,Fordd y dyn trawsgryf haerllyd llym,fe ddysgwyd ym ei hepgor.
5 Ond yn dy union lwybrau di,Duw, cynal fi yn wastad,Rhag llithro allan o’th iawn hwyl,Duw disgwyl fy ngherddediad.
6 Galw yr wyf arnad, am dy fodyn Dduw parod i wrando,Gostwng dy glust, a chlyw yn rhoddfy holl ymadrodd etto.
7 Cyfranna dy ddaionus râd,(ti rhwn wyt geidwad ffyddlon)I’r rhai sy’n ymroi dan dy law,rhag broch, a braw y trawsion.
8 Cadw fi’n anwyl rhag eu twyll,os anwyl canwyll llygad:Ynghysgod dy adenydd di,o cadw fi yn wastad.
9 Rhag yr annuwiol a’i mawr bwys,a rhag fy nghyfrwys elyn,Y rhai a gais fy enaid i,gan godi yn fy erbyn.