1 O Ior fy ngrym caraf di’n fawrfy nghreiglawr, twr f’ymwared,
2 Fy Nâf, fy nerth, fy nawdd, fy Nuw,hwn yw fy holl ymddiried.
3 Pan alwyf ar fy Ior hynod,i’r hwn mae clod yn gyfion,Yna i’m cedwir yn ddiaurhag drygau fy nghaseion.
4 Gofidion angau o bob tuoeddynt yn cyrchu i’m herbyn,A llifodd afonydd y fallyn ddiball, er fy nychryn.
5 Pan ydoedd fwyaf ofn y bedd,a gwaedlyd ddiwedd arnaf,Ag arfau angau o bob tu,am câs yn nesu attaf.
6 Yna y gelwais ar fy Ner,ef o’r uchelder clywodd,A’m gwaedd a ddaeth hyd gar ei fron,a thirion y croesafodd.
7 Pan ddigiodd Duw, daeth daeargryn,a sail pob bryn a siglodd:A chyffro drwy’r wlad ar ei hyd,a’r hollfyd a gynhyrfodd.