11 Mewn dyfroedd a chymylau fry,mae’ i wely heb ei weled.
12 Ac yn eu gyrru’n genllysg mân,a marwor tân i wared.
13 Gyrrodd daranau, dyna’i lef,gyrrodd o’r nef gennadon.
14 Cenllysg, marwar tân, mellt yn gwau,fal dyna’i saethau poethion.
15 Distrywiwyd dy gas: felly gyntgan chwythiad gwynt o’th enau:Gwasgeraist di y moroedd mawr,gwelwyd y llawr yn olau.
16 Felly gwnaeth Duw a mi’r un moddanfonodd o’r uchelder,Ac a’m tynnodd, o’r lle yr oeddi’m hamgylch ddyfroedd lawer.
17 Fe a’m gwaredodd Duw fal hyn,o ddiwrth fy ngelyn cadarn:Yn rhydrwm imi am ei fod,rhof finnau glod hyd dyddfarn.