15 Distrywiwyd dy gas: felly gyntgan chwythiad gwynt o’th enau:Gwasgeraist di y moroedd mawr,gwelwyd y llawr yn olau.
16 Felly gwnaeth Duw a mi’r un moddanfonodd o’r uchelder,Ac a’m tynnodd, o’r lle yr oeddi’m hamgylch ddyfroedd lawer.
17 Fe a’m gwaredodd Duw fal hyn,o ddiwrth fy ngelyn cadarn:Yn rhydrwm imi am ei fod,rhof finnau glod hyd dyddfarn.
18 Safent o’m blaen ni chawn ffordd ryddtra fum yn nydd fy ngofid:Ond yr Arglwydd ef oedd i’m dal,a’m cynal yn fy ngwendid.
19 Fy naf ei hun a’m rhoes yn rhydd,fe fu waredydd ymy:Ac o dra serch i mi y gwnaeth:na bawn i gaeth ond hynny.
20 Yr Arglwydd am gobrwya’n ol,fy ngwastadol gyfiownder:Ac yn ol gwendid fy nwy law,tal i’m a ddaw mewn amser.
21 Cans ceisiais ffyrdd fy Arglwydd ner,ni wneuthym hyder ormod,Na dim sceler erbyn fy Nuw,gochelais gyfryw bechod.