16 Felly gwnaeth Duw a mi’r un moddanfonodd o’r uchelder,Ac a’m tynnodd, o’r lle yr oeddi’m hamgylch ddyfroedd lawer.
17 Fe a’m gwaredodd Duw fal hyn,o ddiwrth fy ngelyn cadarn:Yn rhydrwm imi am ei fod,rhof finnau glod hyd dyddfarn.
18 Safent o’m blaen ni chawn ffordd ryddtra fum yn nydd fy ngofid:Ond yr Arglwydd ef oedd i’m dal,a’m cynal yn fy ngwendid.
19 Fy naf ei hun a’m rhoes yn rhydd,fe fu waredydd ymy:Ac o dra serch i mi y gwnaeth:na bawn i gaeth ond hynny.
20 Yr Arglwydd am gobrwya’n ol,fy ngwastadol gyfiownder:Ac yn ol gwendid fy nwy law,tal i’m a ddaw mewn amser.
21 Cans ceisiais ffyrdd fy Arglwydd ner,ni wneuthym hyder ormod,Na dim sceler erbyn fy Nuw,gochelais gyfryw bechod.
22 Cans ei ddeddfau, maen ger fy mrona’i hollawl gyfion farnau:Ac ni rois heibio’r un or rhai’n,hwy ynt fynghoelfain innau.