24 A’r Arglwydd gobrwyodd fi’n llawnyr hyn fu’n iawn iw olwg.
25 I’r trugarog trugaredd rhoi,i’r perffaith troi berffeithrwydd:
26 A’r glan gwnei lendid, ac i’r tyn,y byddi gyndyn Arglwydd.
27 Cans mawr yw dy drugaredd di,gwaredi’r truan tawel:Ac a ostyngi gar dy fron,rai a golygon uchel.
28 Ti a oleui’ nghanwyll i,am hynny ti a garaf,Tydi a droi fy nos yn ddydd,a’m tywyll fydd goleuaf.
29 Oblegid ynot ti, fy Naf,y torraf trwy y fyddin:Ie yn fy Nuw y neidia’n llwyr,be tros y fagwyr feinin.
30 Ys perffaith ydyw ffordd Duw nef,a’i air ef fydd buredig:Ac i bob dyn yntho a gredMae’n fwccled bendigedig.