27 Cans mawr yw dy drugaredd di,gwaredi’r truan tawel:Ac a ostyngi gar dy fron,rai a golygon uchel.
28 Ti a oleui’ nghanwyll i,am hynny ti a garaf,Tydi a droi fy nos yn ddydd,a’m tywyll fydd goleuaf.
29 Oblegid ynot ti, fy Naf,y torraf trwy y fyddin:Ie yn fy Nuw y neidia’n llwyr,be tros y fagwyr feinin.
30 Ys perffaith ydyw ffordd Duw nef,a’i air ef fydd buredig:Ac i bob dyn yntho a gredMae’n fwccled bendigedig.
31 Cans pwy sydd Dduw? dwedwch yn rhwydd,pwy ond yr Arglwydd nefol?A phwy sydd graig onid ein Duw?sef, disigl yw’n dragwyddol.
32 Duw a’m gwregysodd i a nerth,a rhoes ym brydferth lwybrau.
33 Fo roes fy nrhaed ar hy-llwybr da,gorseddfa’r uchelfannau.