31 Cans pwy sydd Dduw? dwedwch yn rhwydd,pwy ond yr Arglwydd nefol?A phwy sydd graig onid ein Duw?sef, disigl yw’n dragwyddol.
32 Duw a’m gwregysodd i a nerth,a rhoes ym brydferth lwybrau.
33 Fo roes fy nrhaed ar hy-llwybr da,gorseddfa’r uchelfannau.
34 Efe sy’n dysgu rhyfel ym’gan roi grym i’m pawennau:Fel y torrir bwa o dduryn brysur rhwng fy mreichiau.
35 Daeth o’th ddaioni hyn i gyd,rhoist darian iechyd ymy:A’th law ddeau yr wyd im’ dwyn,o’th swynder yr wy’n tyfy.
36 Ehengaist ymy lwybrau teg,i redeg buan gamrau:Nid oes ynof un cymal gwan,ni weggian fy mynyglau.
37 Erlidiais i fy nghas yn llym,a daethym iw goddiwedd:Ac ni throis un cam i’m hol mwynes eu bod hwy’n gelanedd.