34 Efe sy’n dysgu rhyfel ym’gan roi grym i’m pawennau:Fel y torrir bwa o dduryn brysur rhwng fy mreichiau.
35 Daeth o’th ddaioni hyn i gyd,rhoist darian iechyd ymy:A’th law ddeau yr wyd im’ dwyn,o’th swynder yr wy’n tyfy.
36 Ehengaist ymy lwybrau teg,i redeg buan gamrau:Nid oes ynof un cymal gwan,ni weggian fy mynyglau.
37 Erlidiais i fy nghas yn llym,a daethym iw goddiwedd:Ac ni throis un cam i’m hol mwynes eu bod hwy’n gelanedd.
38 Gwnaethym arnynt archollion hyllfel sefyll nas gallasant:Ond trwy amarch iw cig, a’i gwaed,i lawr dan draed syrthiasant.
39 Gwregysaist fi a gwregys nerth,at wres ac angerth rhyfel:A’r rhai a ddaeth i’m herbyn i,a gwympaist di’n ddiogel.
40 Fal hyn y gwnaethost imi gauar warrau fy ngelynion:A’m holl gas a ddifethais i,rhois hwynt i weiddi digon.