39 Gwregysaist fi a gwregys nerth,at wres ac angerth rhyfel:A’r rhai a ddaeth i’m herbyn i,a gwympaist di’n ddiogel.
40 Fal hyn y gwnaethost imi gauar warrau fy ngelynion:A’m holl gas a ddifethais i,rhois hwynt i weiddi digon.
41 Ac er gweiddi drwy gydol dyddni ddoe achubydd attynt,Er galw’r Arglwydd:ni ddoe neb a roddi atteb iddynt.
42 Maluriais hwy fel llwch mewn gwynt,fal dyna helynt efrydd:Ac mi a’i sethrais hwynt yn ffrom,fel pridd neu dom heolydd.
43 Gwaredaist fi o law fy nghas,rhoist bawb o’m cwmpas danaf:Doe rai ni welsent fi erioeda llaw, a throed, hyd attaf.
44 Addaw ufydd-dod, ond fo gaidgan blant estroniaid gelwydd:
45 A phlant estroniaid twyll a wnant,ond crynant iw stafellydd