42 Maluriais hwy fel llwch mewn gwynt,fal dyna helynt efrydd:Ac mi a’i sethrais hwynt yn ffrom,fel pridd neu dom heolydd.
43 Gwaredaist fi o law fy nghas,rhoist bawb o’m cwmpas danaf:Doe rai ni welsent fi erioeda llaw, a throed, hyd attaf.
44 Addaw ufydd-dod, ond fo gaidgan blant estroniaid gelwydd:
45 A phlant estroniaid twyll a wnant,ond crynant iw stafellydd
46 Eithr byw yw yr Arglwydd ar fy mhlaid,fy nghraig fendigaid hefyd,Derchafer Duw: yntho ef trigfy nerth a’m unig Iechyd.
47 Fy Nuw tra fo a’i nerth i’m dal,rhoi dial hawdd y gallaf.A rholi pobloedd: cans efosydd yn eu twyso attaf.
48 Fy ngwaredydd, a’m derchafydd,o chyfyd rhai i’m herbyn,Wyt ti o Dduw: a’m dug ar gaisrhag drwg a thrais y gelyn.