1 Datgan y nefoedd fowredd Duw,yr unrhyw gwna’r ffurfafen.
2 Y dydd i ddydd, a’r nos i nos,sy’n dangos cwrs yr wybren.
3 Er nad oes ganthynt air nac iaith,da y dywaid gwaith Duw lywydd,Diau nad oes na mor, na thir,na chlywir eu lleferydd.
4 Aeth eu sain hwy drwy yr holl fyd,a’i geiriau hyd eithafoedd.Yr haul teg a’i gwmpas sydd bell,a’i babell yn y nefoedd.
5 O’r hon y cyfyd ef yn rhod,fel priod o’i orweddfa.Iw gwrs cyrch drwy lawenydd mawrfel cawr yn rhedeg gyrfa.
6 O eithaf hyd eithafoedd nef,y mae ef a’i amgylchiad,Ac ni all dim (lle rhydd ei dro)ymguddio o’i oleuad.
7 Dysg yr Arglwydd sydd berffaith ddawna dry i’r iawn yr enaid,Felly rhydd ei wir dystiolaethwybodaeth i’r ffyddloniaid.