7 Am fod y brenin yn rhoi’i gred,a’i ’mddiried yn yr Arglwydd:Dan nawdd y Goruchaf tra fo,gwn na ddaw iddo dramgwydd.
8 A thydi Arglwydd a’th law lan,cei allan dy elynion:Rhag dy ddeheulaw (er a wnant)Ni ddiangant dy gaseion.
9 Di a’i gosodi’n nydd dy ddig,fel ffwrnais ffyrnig danllyd:Yr Arglwydd iw lid a’i difa,a’r tân a’i hysa’n enbyd.
10 Diwreiddi dieu ffrwyth o’r tir,a’i had yn wir ni thyccian:
11 Am fwriadu yt ddrwg ddilen,heb ddwyn i ben mo’i hamcan.
12 Ti a’i gosodi hwy’r naill du,a thi a’th lu iw herbyn:Ac a lefeli dy fwau,at eu hwynebau cyndyn.
13 Ymddercha dithau f’Arglwydd, gun,i’th nerth dy hun a’th erfid:Ninnau a ganwn, o’n rhan ni,i foli dy gadernid.