4 Yno’t gobeithiai’n tadau ni,a thydi oedd eu bwccled:Ymddiried ynot: Arglwydd hael,ac felly cael ymwared.
5 Llefasant drwy ymddiried gynt,da fuost iddynt: Arglwydd:Eu hachub hwynt a wnaethost dirhag cyni a rhag gwradwydd.
6 Fo’m rhifir innau megis pryf,nid fel gwr cryf ei arfod:Fel dirmyg dynion, a gwarth gwaelA thybiant gael eu hystod.
7 Pawb a’m gwelent, a’m gwatworent,ac a’m min-gamment hefyd,Ysgwyd eu pennau yn dra hy,a chwedi hynny dwedyd,
8 Ar yr Arglwydd rhoes bwys a chred,doed ef iw wared allan,Os myn ei ollwng ef ar led,cymered iddo ei hunan.
9 Duw tynnaist fi o groth fy mam,rhoist ynof ddinam obaith,Pan oeddwn i yn sugno hon,ac o’i dwy fron am harchwaith.
10 Arnat ti bwriwyd fi o’r bru,arnat ti bu fy ’mddiried:Fy Nuw wyt ti o groth fy mam,ffyddiais yt am fy ngwared.