5 Gan yr Arglwydd y caiff hwn wlithei raslawn fendith helaeth,A chyfiawnder i bob cyfrywgan Dduw yr iechydwriaeth.
6 Hon sy gan Dduw’n genhedlaeth gref,a’i ceisiant ef yn effro,A geisiant d’wyneb, dyma eu maeth,sef gwir genhedlaeth Iago.
7 Derchefwch chwi byrth eich pennau,a chwithau ddorau bythol,Cans brenin mawr daw i’ch mewn chwi,sef pen bri gogoneddol.
8 Pwy yw’r brenin hwn gogonedd?Arglwydd rhyfedd ei allu:Yr Arglwydd yw, cyfion ei farn,a chadarn i ryfelu.
9 Derchefwch chwi byrth ych pennau,ehengwch ddorau bythol:Cans brenin mawr daw i’ch mewn chwi,teyrn o fri gogonol.
10 Pwy meddwch ydyw’r brenin hwn,a gofiwn ei ogoniant?Ior y lluoedd yw, brenin hedd,a gogonedd, a ffyniant.