1 Yr Arglwydd yw fy ngolau’ gyd,a’m iechyd: rhag pwy’r ofnaf?Yr Arglwydd yw nerth fo’es: am hyn,rhag pwy doe ddychryn arnaf?
2 Pan ddaeth rhai anfad, sef fy nghas,o’m cwmpas er fy llyngcu,Llithrasant a chwympasant hwy,ni ddaethant mwy i fynu.
3 Ni ddoe ofn ar fy nghalon gu,pe cyrchai llu i’m herbyn,Neu pe codai gâd y modd hwn,mi ni wanffyddiwn ronyn.
4 Un arch a erchais ar Dduw nâf,a hynny a archaf etto:Cael dyfod i dy’r Arglwydd glân,a bod a’m trigfan ynddo.I gael ymweled a’i Deml deg,a hyfryd osteg ynthiHoll ddyddiau f’einioes: sef wyf gaetho fawr hiraeth amdani.
5 Cans y dydd drwg fo’m cudd efeiw Babell neu ddirgelfa:Iw breswylfod, fel mewn craig gref,caf gantho ef orphwysfa.