5 Cans y dydd drwg fo’m cudd efeiw Babell neu ddirgelfa:Iw breswylfod, fel mewn craig gref,caf gantho ef orphwysfa.
6 Bellach fo’m codir uwch fy nghâs,sydd mewn galanas ymy:Aberthaf, caraf, mola’r Ionyn ffyddlon byth am hynny.
7 Gwrando arnaf fy Arglwydd byw,bryssia a chlyw fy oernad:Trugarhâ wrthif, gwyl fy nghlwyf,y pryd y galwyf arnad.
8 Fel hyn mae ’nghalon o’m mewn iyn holi ac yn atteb,Ceisiwch fy wyneb ar bob tro:fy Nuw rwy’n ceisio d’wyneb.
9 Na chudd d’wyneb, na lys dy wâs,fy mhorth a’m urddas fuost:Duw fy iechyd na wrthod fi,o paid a sorri’n rhydost.
10 O gwrthyd fi fy nhâd a’m mama’m dinam gyfneseifiaid:Gweddia’r Arglwydd, ef er hyno’i râs a derbyn f’enaid.
11 Duw dysg i mi dy ffordd yn rhwydd,oherwydd fy ngelynion,Ac arwain fi o’th nawddol râdyn wastad ar yr union.