1 Attad (Ion fy nerth) y rhof lef,Duw nef na fydd di fyddar:Os tewi, rhag fy mynd mor drist,a bod mewn cist dan ddaiar.
2 O Arglwydd, erglyw fy llais i,a derbyn weddi bruddaidd:Pan gottwyf fy nwy law o bell,Duw, tua’th gafell sanctaidd.
3 Ac na ddarostwng fi, fy Ior,dan ddwylo’r annuwiolionY rhai sy’n arwain minau mel,a rhyfel yn eu calon.
4 Yn ol bwriad eu calon gau,a’r twyll ddyfeisiau eiddynt,Yn ol eu drwg weithredoedd hwy,Duw tâl eu gobrwy iddynt.
5 Am na ’styriant weithredoedd Duw,ef a wna ddistryw arnynt:Ac na welent ei wyrth a’i râd,ni wna adeilad honynt.